Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Un o sêr llwyfannau Broadway, Jennifer Holliday yw’r ddiweddaraf i gyhoeddi na fydd hi’n perfformio yn ystod y dathliadau i urddo Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Daw ei chyhoeddiad yn dilyn protestiadau gan ei chefnogwyr sy’n hoyw ac yn groenddu.

Dywedodd y gantores, sydd fwyaf adnabyddus am ei rhan yn ‘Dreamgirls’, nad oedd hi wedi ystyried y gallai ei hymddangosiad gael ei ystyried yn ddatganiad o gefnogaeth i’r Arlywydd newydd.

Roedd disgwyl iddi ganu mewn cyngerdd ger Cofeb Lincoln yn Washington ddydd Iau.

Ond mae hi bellach wedi ymddiheuro am ystyried canu yn y digwyddiad.

“Mae’r gymuned hoyw wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd a’m gyrfa. Dw i’n teimlo na fyddai yna Jennifer Holliday na ‘Dreamgirls’ yn yr unfed ganrif ar hugain oni bai amdanyn nhw.”

Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n perfformio yn ystod y dathliadau mae Charlotte Church.

Ond daeth cadarnhad y bydd Jackie Evancho yn canu’r anthem genedlaethol ddydd Gwener.

Mae disgwyl i’r seremoni ddydd Gwener fod yn dra gwahanol i seremoni urddo Barack Obama, pan oedd llu o sêr wedi perfformio – a’r rheiny’n cynnwys Beyonce, Bruce Springsteen, U2, Alicia Keys a Jennifer Hudson.

HBO sydd wedi darlledu’r digwyddiad yn y gorffennol, ond maen nhw wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n darlledu’r seremoni ddydd Gwener.

Ond mae’r sianel yn mynnu nad yw eu penderfyniad yn un gwleidyddol.

Mae disgwyl i CNN ddarlledu rywfaint o’r digwyddiad.