Mae cwmni ceir Renault yn wynebu ymchwiliad barnwrol yn Ffrainc oherwydd amheuaeth o dwyllo gydag allyriadau o’i injans diesel.

Mae’r cwmni’n mynnu nad oes meddalwedd twyllo mesuriadau llygredd yn eu ceir, a’u bod yn cydymffurfio’n llawn â holl ddeddfau Ffrainc ac Ewrop.

Mae cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng yn sylweddol heddiw.

Roedd adran economi Ffrainc eisoes wedi cynnal ymchwiliad cychwynnol i’r cwmni ar ôl i Volkswagen gael eu dal yn defnyddio meddalwedd twyllodrus yn eu ceir.