Mae eira trwm yn Nwyrain Ewrop wedi arwain at broblemau trafnidiaeth, ysgolion yn cau, ac at farwolaethau.

Mae dau o bobol wedi marw yng ngwlad y Pwyl, un o’r gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan gwymp tymheredd sydyn dros Ewrop sydd wedi gweld cyfanswm o 65 o farwolaethau hyd yma.

Hyd yn hyn mae chwech wedi marw yn Serbia ac mae tymheredd oer wedi arwain at farwolaethau nifer o bobol ddigartref yn Cosovo ac Albania.

Lluwchfeydd ac eira trwm

Yn Romania mae miloedd wedi heidio i’r trenau tanddaearol fel modd o drafnidiaeth gan fod y palmentydd dan eira trwchus ac ym Mwlgaria mae priffordd y wlad wedi ei chau.

Yn Serbia a Romania mae’r tywydd wedi gorfodi ysgolion i gau, ac ym Mwlgaria mae lluchfeydd wedi torri cyflenwad drydan 117 o drefi a phentrefi.

Mae tymheredd pentref Gjilan yn Kosovo wedi disgyn i -32.5 gradd Celsius, yr oeraf ers 1963.