Mae’r Emiradau Arabaidd Unedig yn dweud bod pump o’i diplomyddion wedi’u lladd gan fom yn ne Afghanistan.

Yn y cyfamser, mae’r Taliban wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Kandahar lle cafodd llysgennad yr EAU yn Afghanistan hefyd ei anafu.

Mae arweinydd Dubai, Sheikh Mohammed bin Rashid Al Maktoum, sydd hefyd yn brif weinidog a dirprwy arlywydd yr Emiradau, wedi dweud ar wefan Twitter nad oes yr un cyfiawnhad “dynol, moesol na chrefyddol” tros fomio a lladd pobol sydd yn ceisio helpu eraill.

Yn Kandahar, fe gafodd y bom ei gosod mewn gwesty sy’n eiddo i Homayun Azizia, llywodraethwr y dalaith. Fe gafodd yntau ei anafu yn yr ymosodiad, ynghyd â’r llysgennad, Juma Mohammed Abdullah al-Kaabi.

Ben bore heddiw, mae’r Taliban wedi rhyddhau datganiad yn beio “ymladd mewnol, lleol” am y digwyddiad yn Kandahar.