Ymosodiad arall yn Kabul yn 2015 (Llun: PA)
Mae dau ffrwydriad yn ninas Kabul wedi lladd o leia’ 38 o bobol, yn cynnwys pedair dynes.

Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gartref yn dweud fod 43 o bobol eraill wedi’u hanafu yn yr ymosodiad ger swyddfeydd llywodraeth Afghanistan yn y brifddinas.

Y gred ydi mai hunanfomiwr oedd y cynta’ i ffrwydro’i ddyfais, cyn i fom car gael ei thanio rai munudau wedyn.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.