Mae dyn oedd wedi cynllwynio ffrwydrad y tu allan i’r mosg yn Saudi Arabia lle cafodd y Proffwyd Mohammed ei gladdu wedi cael ei ladd gan yr heddlu.

Roedd Taie bin Salem bin Yaslam al-Saya’ari yn un o ddau ddyn a gafodd eu saethu’n farw yn Riyadh ddydd Sadwrn.

Cafodd pedwar o swyddogion diogelwch eu lladd yn y ffrwydrad ar Orffennaf 4.

Mae’r mosg yn boblogaidd ymhlith miliynau o Fwslimiaid sy’n mynd ar bererindod yn flynyddol i Fecca.