Mae gwasanaethau cudd-wybodaeth yn yr Unol Daleithiau’n honni bod Arlywydd Rwisa, Vladimir Putin wedi dylanwadu ar yr etholiad arlywyddol er mwyn i Donald Trump gael curo Hillary Clinton.

Dyma’r tro cyntaf i honiadau o’r fath gael eu gwneud gan wasanaethau cudd-wybodaeth, ond mae Donald Trump wedi gwrthod gwneud sylw hyd yn hyn.

Ond fe ddywedodd mewn cyfweliad ag Associated Press ei fod e “wedi dysgu tipyn” yn dilyn trafodaethau â gwasanaethau cudd-wybodaeth.

Ar Twitter, dywedodd darpar arlywydd yr Unol Daleithiau fod “hacio” wedi digwydd o ganlyniad i “esgeulustod difrifol” pwyllgor cenedlaethol y Democratiaid.

Yn ôl y gwasanaethau cudd, fe geisiodd Rwsia hacio cyfrifon e-bost Democratiaid unigol a’r blaid yn ganolog, ac mae honiadau eu bod nhw wedi talu am bropaganda ac am sylwadau niweidiol gan unigolion ar wefannau cymdeithasol.

Ond does dim awgrym iddyn nhw gyffwrdd â pheiriannau pleidleisio.

Mae lle i gredu hefyd fod Rwsia wedi rhoi e-byst i WikiLeaks, ond mae’r sylfaenydd Julian Assange yn gwadu hynny.

Yn ôl Vladimir Putin, Hillary Clinton sydd ar fai am brotestiadau yn erbyn ei arweinyddiaeth yntau yn 2011 a 2012, ac mae hi wedi ei sarhau e’n bersonol drwy ei sylwadau amdano.