Mae capten fferi twristiaid yn Indonesia wedi ei arestio am esgeulustod honedig yn dilyn damwain wnaeth arwain at farwolaeth 23 o bobol.

Roedd o leiaf 247 o bobol yn teithio i ynys Tidung ar y Zahro Express pan aeth ar dân ddydd Sul.

Mae capten y llong, Mohamad Nali, wedi ei gyhuddo o forio gan wybod bod y fferi yn dal dros ddwbwl y nifer cyfreithiol o deithwyr.

Cafodd 224 o bobol eu hachub, ac mae 17 o bobol yn dal i fod ar goll.

Cafodd y capten ei arestio ddydd Mawrth, Ionawr 3, ac mae’n wynebu’r posibiliad o 10 mlynedd mewn carchar os bydd llys yn ei gael yn euog.

Er bod awdurdodau yn ansicr ynglŷn â beth wnaeth achosi’r tân, y gred yw mai nam trydanol yn ystafell yr injan oedd yn gyfrifol.