Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Mae’r bont olaf yn ninas Mosul, y ddinas yn Irac sydd yn nwylo’r Wladwriaeth Islamaidd, wedi cael ei dinstrio mewn ymosodiad o’r awyr.

Mae trigolion y ddinas yn gorfod croesi’r afon mewn cychod, gan wanhau cadarnle pwysicaf y Wladwriaeth Islamaidd.

Arferai Mosul fod â phum pont yn croesi’r afon Tigris, sy’n llifo drwy ganol y ddinas.

Mae pedair bellach wedi cael eu bomio mewn ymosodiadau o’r awyr ers y cyrch gan luoedd y llywodraeth a gychwynnodd ar 17 Hydref. Cafodd y llall ei dinistrio wythnosau ynghynt.

Mae disgwyl i luoedd Irac osod pontydd pontŵn i groesi’r afon pan fyddan nhw’n cyrraedd y ddinas.

Dywedodd prif weinidog Irac, Haider al-Abadi, ddoe, fod “y cyrch yn parhau … ein gobaith yw y bydd newyddion da yn y dyddiau sy’n dod.”

Mosul, sydd 225 o filltiroedd i’r gogledd-orllewin o’r brifddinas Baghdad, yw’r ddinas ail-fwyaf yn Irac, a chadarnle dinesig mawr olaf y Wladwriaeth Islamaidd yn y wlad.

Roedd y ddinas i ddwylo’r gwrthryfelwyr ym mis Mehefin 2014.