Berlin wedi'r ymosodiad ar 19 Rhagfyr (Claire Hayhurst/PA Wire)
Mae’r heddlu’r Almaen yn Cologne wedi gwahardd protest gan un o fudiadau’r dde eithaf nos Galan er mwyn ceisio anhrefn tebyg i’r hyn a ddigwyddodd y llynedd.

Fe fyddan nhw hefyd yn gosod rhwystrau i atal neb rhag gyrru i mewn i’r torfeydd.

Roedd awdurdodau’r ddinas eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i roi 1,500 o blismyn ar ddyletswydd, dros ddeg gwaith mwy na’r llynedd, pryd y cafodd llawer o ddynion estron eu cyhuddo o ddwyn ac o ymosod yn rhywiol.

Dywedodd pennaeth lleol yr heddlu, Juergen Mathies, iddo wrthod caniatáu protest gan blaid asgell dde, y Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, gan y byddai wedi denu gwrth-brotestwyr a pheryglu diogelwch.

Fe fydd blociau concrid a cherbydau’n cael eu defnyddio fel rhwystrau mewn rhai rhannau o’r ddinas yn yr oriau cyn y flwyddyn newydd, yn sgil pryder wedi’r ymosodiad yn Berlin ar 19 Rhagfyr.