Castro, prifddinas rhanbarth Chiloe (JCardinal18)
Mae’r awdurdodau wedi tawelu pryderon am don tsunami mewn ardal o Chile sydd wedi ei tharo gan ddaeargryn.
Wedi iddyn nhw rybuddio pobol am y peryg, maen nhw bellach yn dweud nad oes bygythiad.
Roedd canol yr ysgytiad yn Ynys Chiloe, sydd yr ochr arall i fynyddoedd yr Andes o’r cymunedau Cymraeg yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin.
Does dim adroddiadau eto am farwolaethau, er fod y daeargryn wedi cyrraedd 7.6 ar raddfa Richter.
Pryder
Ond mae’r ardal yn gymharol brin ei phoblogaeth a’r pryder mwya’ yn union wed oedd y byddai y daeargryn yn cael ei ddilyn gan tsunami, debyg i’r un a drawodd dde-ddwyrain Asia yn 2004.
Roedd daeargryn arall yn 2010 wedi achosi tsunami yn Chile a lladd mwy na 500 o bobol.