Tref Israelaidd anghyfeithlon ger pentre Arabaidd ar y Lan Orllewinol (Llun Golwg360)
Mae Prif Weinidog Israel yn ystyried camre i daro’n ôl yn erbyn y Cenhedloedd Unedig a rhai o’i aelodau ar ôl pleidlais yn condemnio’i wlad am godi trefedigaethau anghyfreithlon ar dir y Palestiniaid.

Fe ddywedodd ffynonellau yn Israel fod Benjamin Netanyahu yn ystyried “cynllun gweithredu” yn erbyn y corff rhyngwladol a’i fod eisoes wedi gorchymyn rhai camre yn erbyn gwledydd oedd yn cefnogi’r bleidlais.

Ddoe fe ddywedodd y Prif Weinidog fod yr Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiad llechwraidd ar Israel trwy beidio ag atal y bleidlais fel y gwnaethon nhw yn y gorffennol.

‘Fy ffrind, Donald Trump’

Mae wedi condemnio’r Arlywydd Barack Obama a dweud ei  fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’i “ffrind”, y darpar-Arlywydd Donald Trump, sydd wedi addo dad-wneud y bleidlais.

Mae Israel wedi cael eu condemnio sawl tro gan fwyafrif y gymuned ryngwladol am godi’r trefi anghyfreithlon ar dir yr oedden nhw wedi’i gipio gan y Palestiniaid adeg rhyfel 1967.

Mae Palestiniaid yn honni eu bod yn cael eu gwthio o’u cartrefi ac yn cael eu bygwth gan luoedd arfog Israel.