Awyren debyg i'r un sydd wedi difllannu (jn-commonwiki CCA 3.0)
Mae achubwyr bywyd wedi dod o hyd i ddarnau o awyren filwrol Rwsiaidd a ddiflannodd yn fuan ar ôl dechrau taith rhwng y Môr Du a Syria.

Roedd yna 83 o deithwyr ac 8 aelod o griw ar fwrdd yr awyren Tu-154 a gododd o dref wyliau Sochi yn gynnar fore Sul.

Roedd yn cario band milwrol enwog Alexandrov ac, yn ôl rhai adroddiadau, roedd naw o newyddiadurwyr arni hefyd.

Putin yn cadw llygad

Does dim gwybodaeth eto am achos y trychineb ond mae Gweinidog Milwrol Rwsia’n goruchwylio’r ymchwiliad a’r manylion diweddara’n cael eu hanfon yn gyson at yr Arlywydd Vladimir Putin.

Nes y bydd esboniad arall, fe fydd dyfalu’n sicr mai ymosodiad terfysgol yw hwn, ychydig ddyddiau wedi i Lysgennad Rwsia yn Nhwrci gael ei lofruddio gan blismon oedd yn protestio yn erbyn gweithredoedd Rwsia yn ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Mwslemaidd yn Syria.

Fe ddaeth yr achubwyr o hyd i ddarnau o’r awyren yn y Môr Du yn agos at y fan lle diflannodd oddi ar sgriniau radar.