Mae 42 o ffoaduriaid, gan gynnwys nifer o blant, wedi cael eu cludo i’r ysbyty yng Nghroatia ar ôl cael eu darganfod mewn fan.

Mae’r mwyafrif yn dioddef o effeithiau gwenwyn carbon monocsid, a rhai ohonyn nhw’n anymwybodol pan gawson nhw eu darganfod.

Ond mae lle i gredu bod eu cyflwr wedi gwella rywfaint erbyn hyn.

Roedd 62 o ffoaduriaid yn y fan pan gafodd ei stopio gan yr heddlu ger tref Novska ger y ffin â Bosnia.

Dynion o Afghanistan a Phacistan oedden nhw i gyd, ac roedden nhw wedi cael eu cludo i Groatia’n anghyfreithlon.

Mae miloedd o ffoaduriaid yn sownd yn Serbia ac yn ceisio darganfod ffordd o ddod i orllewin Ewrop.