Mae plismon yng Nghaliffornia wedi saethu dyn 73 mlwydd oed yn farw.

Roedd yr heddwas yn ymateb i alwad frys ynglyn â “dyn arfog”, ond doedd gan y dyn a laddwyd ddim math o arf, ac roedd yn sefyll ar ddreif ei gymydog. Roedd Francisco Serna hefyd yn diodde’ o dementia.

Mae’r heddlu lleol wedi cadarnhau iddyn nhw gyrraedd y fan tua 12.30yb, a phan bwyntiodd tyst at Francisco Serna, bod heddwas wedi ei saethu nifer o weithiau, a’i ladd.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau hefyd na chafwyd hyd i’r un gwn wrth chwilio’r safle.

Mae mab Francisco Serna wedi bod yn siarad gyda’r wasg, yn dweud mai taid wedi ymddeol oedd o, ac nad oedd yn berchen gwn.