Mae Rwsia a’r Unol Daleithiau “yn agos” at ddod i gytundeb i atal y saethu a’r bomio yn ninas Aleppo yn Syria.

Mae llywodraeth Syria a’i phartner, Rwsia, wedi gwrthod galwadau am gadoediad yn y ddinas cyn hyn, gan gadw at eu cynllun o fomio’r gwrthryfelwyr a’u gorfodi i adael.

Ond mae adroddiadau gan asiantaethau newyddion Rwsieg heddiw yn dyfynnu Gweinidog Tramor y wlad, Sergei Ryabkov, yn dwedud fod Mosgow a Washington “yn agos at ddod i ddeall ei gilydd” ar fater Aleppo. Er hynny, mae’n rhybuddio yn erbyn “disgwyliadau uchel”.

Fe fu Ysgrifennydd Gwladol America, John Kerry, yn cyfarfod â diplomyddion Rwsia yn yr Almaen ddydd Mercher, ond dyw’r naill ochr na’r llall wedi rhyddhau datganiad am y trafodaethau.