Mae heddlu yn yr Eidal wedi arestio pennaeth teulu pwerus ‘Ndrangheta, a fu’n rheoli am flynyddoedd yr ardal rhwng Calabria a Lombardy.

Mae fideo wedi’i ryddhau o Marcello Pesce yn cael ei ddwyn i’r ddalfa gyda’r wawr fore Iau. Fe gafodd ei arestio yn y llofft yn Rosarno lle’r oedd wedi bod yn cuddio. Arestiwyd hefyd dad a mab arall oedd yn aros yn yr un cyfeiriad.

Fe lwyddodd Marcello Pesce i ddianc o grafangau’r heddlu ym mis Ebrill 2010, ac fe gafodd ei ddedfrydu yn ei absenoldeb o fod yn gysylltiedig â’r Maffia, ac i dreulio 16 mlynedd ac 8 mis yng ngharchar.

Mae’n cael ei ystyried yn un o’r penaethiaid mwya’ pwerus, ac mae llywodraeth yr Eidal yn dweud fod ei arestio’n dangos eu hymrwymiad i ymladd llygredd.