Mae un o gyn-swyddogion corff pêl-droed FIFA yn cael ei amau o wneud taliadau llwgr.

Bellach, mae’r ymchwiliad i droseddau’n ymwneud â’r corff wedi cael ei ymestyn fel ei fod yn ystyried trafodion yn ymwneud â’r cyn ysgrifennydd cyffredinol, Urs Linsi.

Mae’r taliadau’n ymwneud â Chwpan y Byd yn yr Almaen yn 2006, pan gafodd taliad o 6.7 miliwn Ewro (£5.7 miliwn) ei wneud i FIFA.

Mae’r heddlu wedi chwilio nifer o dai yn y Swistir fel rhan o’r ymchwiliad.

Gadawodd Urs Linsi ei swydd yn 2007.

Mae cyn-chwaraewr yr Almaen, Franz Beckenbauer yn un arall sy’n cael ei amau o dorri’r gyfraith, ynghyd â thri aelod arall o bwyllgor trefnu Cwpan y Byd 2006.