Mae lludw Fidel Castro yn cael ei gludo drwy ddinasoedd Ciwba am bedwar diwrnod.

Cafodd y lludw eu gosod mewn arch oedd wedi’i gorchuddio â baner y wlad.

Bydd naw diwrnod o alaru’n dod i ben ddydd Sul, pan fydd y lludw’n cael eu claddu yn Santiago yn nwyrain y wlad.

Erbyn hynny, byddan nhw wedi teithio 500 milltir drwy bedair dinas, gan adlewyrchu – ond am yn ôl – daith cyn-arweinydd Ciwba ar ôl iddo gipio gryn iddi ar Fulgencio Batista yn 1959.