Mae un o weithwyr cwmni syrcas ‘Cirque du Soleil’ wedi cael ei ladd mewn “damwain ddiwydiannol” yn San Francisco.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth gan lefarydd ar ran yr heddlu ac mewn datganiad gan Cirque du Soleil.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Parc AT&T yn dilyn adroddiadau bod damwain wedi digwydd mewn pabell.

Bu farw’r gweithiwr, oedd yn dechnegydd gyda’r sioe, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Dyw enw’r gweithiwr na manylion am y digwyddiad ddim wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn, ond mae ymchwiliad ar y gweill, a chafodd sioe neithiwr ei chanslo.