Mae Ciwba’n cynnal naw niwrnod o alaru yn dilyn marwolaeth yr arweinydd chwyldroadol Fidel Castro yn 90 oed.

Bydd ei ludw’n cael eu cludo ar draws y wlad o Havana i Santiago mewn ymgais i ail-greu’r ffordd y gwnaeth ei fyddin gipio grym yn y wlad.

Mae oriau lawer o ddeunydd wedi cael ei ddarlledu ar radio a theledu’r wlad, ynghyd â theyrngedau iddo.

Mae bariau wedi’u cau, gemau pêl-fas a chyngherddau wedi’u gohirio a bwytai wedi rhoi’r gorau i werthu alcohol am y tro.

Mae’r papurau newydd wedi’u cyhoeddi mewn du a gwyn yn unig, yn hytrach na’r coch neu las llachar arferol.

Cafodd ei farwolaeth ei gyhoeddi gan ei frawd a’r arlywydd presennol, Raul Castro nos Wener.

Y gobaith gan rai yn y wlad yw y gall ei farwolaeth olygu bod y wlad yn symud yn ei blaen a datblygu ar y berthynas gref sy’n cael ei magu â’r Unol Daleithiau erbyn hyn.

Tra bod rhai yn ei weld fel y dyn a sicrhaodd annibyniaeth oddi wrth yr Unol Daleithiau, mae eraill yn ei weld fel dyn a achosodd gryn broblemau economaidd a chymdeithasol i drigolion Ciwba.

Yn wir, mae rhai yn yr Unol Daleithiau’n dathlu ei farwolaeth, gyda dathliadau mawr ymhlith ym Miami.