Plaid y Front National o dan Marine Le Pen yn gobeithio disodli Francois Hollande
Mae ceidwadwyr Ffrainc yn bwrw eu pleidlais i ddewis ymgeisydd Arlywyddol ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Mae pryderon am fewnfudwyr ac eithafwyr Islamaidd yn debygol o fod ar frig yr agenda wrth i saith ymgeisydd fynd ben-ben cyn yr etholiad fis Ebrill a Mai nesaf.

Y tri cheffyl blaen ar hyn o bryd yw’r cyn-Arlywydd Nicolas Sarkozy a’r cyn-brif weinidogion Francois Fillon ac Alain Juppe.

Mae’r llywodraeth sosialaidd bresennol o dan Francois Hollande mewn perygl o golli grym gan fod yr arweinydd yn cael ei ystyried yn wan.

Mae hynny’n golygu y gallai’r arweinydd asgell dde Marine Le Pen o’r Front National gael ei hystyried yn un o’r ymgeiswyr cryfaf.

Mewn ymgais i wrthsefyll Le Pen a’r Front National, mae Sarkozy wedi galw am reolau llymach ar fewnfudo ar draws Ewrop, ac mae e wedi addo gwahardd merched ifainc Islamaidd rhag gwisgo penwisg yn y brifysgol ac mewn mannau eraill, o bosib.

Mae’r hijab eisoes wedi’i gwahardd mewn ysgolion.

Mae Francois Fillon wedi addo trefnu refferendwm er mwyn cael cyflwyno cwota ar fewnfudwyr, tra bod Alain Juppe yn gofyn am ddangos parch at ryddid crefyddol ac amrywiaeth ethnig.

Mae’r tri am ostwng trethi a nifer y gweision sifil, yn ogystal â gwyrdroi’r wythnos waith 35 awr.

Mae Ffrainc yn disgwyl clywed erbyn heno pwy sydd wedi dod i’r brig.

Gall unrhyw Ffrancwr dros 18 oed, aelod neu beidio, bleidleisio os ydyn nhw’n talu 2 Ewro ac yn llofnodi datganiad sy’n dweud eu bod yn “rhannu gwerthoedd gweriniaetho yr asgell dde a’r canol”.

Yr ymgeiswyr eraill ar y papur pleidleisio yw Nathalie Kosciusko-Morizet, Bruno Le Maire, Jean-Francois Cope a Jean-Frederic Poisson.

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 7 o’r gloch heno.