Mae 15 o bobol ar goll yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch hwylio a llong yn nhalaith Dwyrain Java yn Indonesia.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y llong MV Thaison 4 a chwch hwylio KM Mulya Sejati yn ardal Tuban.

Roedd y cwch hwylio’n cludo 27 o bobol, ac fe suddodd ar ôl cael ei daro gan y llong.

Mae’r llong bellach yn destun ymchwiliad yr awdurdodau yn nhref Lamongan.

Mae lle i gredu ei bod yn cludo blawd tapioca i borthladd Tanjung Perak ym mhrifddinas Dwyrain Java, Surabaya.

Cafodd 12 o bobol eu hachub oddi ar y cwch hwylio a’u cludo i’r ysbyty.

Mae llynges y wlad yn helpu i chwilio am y bobol sy’n dal ar goll.