Neuadd y Bataclan wedi'r ymosodiadau flwyddyn yn ôl (llun: PA)
aFe fydd y canwr Sting yn ailagor neuadd y Bataclan yn Paris heddiw, flwyddyn union ar ôl yr ymosodiadau gan hunan-fomwyr Islamaidd.

Fe fu farw 89 o bobl yno mewn cyngerdd ar 13 Tachwedd y llynedd, ynghyd â 41 arall mewn ymosodiadau ar gaffis ac yn y Stade de France.

“Wrth ailagor y Bataclan, mae gennym ddwy dasg bwysig i’w gwneud,” meddai Sting, cyn-brif leisydd y grŵp Police. “Yn gyntaf, cofio ac anrhydeddu’r rheini a gollodd eu bywydau flwyddyn yn ôl, ac yn ail, dathlu’r bywyd a’r gerddoriaeth y mae’r theatr hanesyddol hon yn eu cynrychioli.

“Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio parchu coffadwriaeth yn ogystal ag ysbryd bywiol y rheini a syrthiodd. Wnawn ni mo’u hanghofio nhw.”