Mae heddlu yn America yn chwilio am ddyn arfog, wedi i ddau blismon gael eu saethu yn nhalaith Pennsylvania.

Fe ddigwyddodd y saethu tua 4yb (amser lleol) y Canonsburg, 20 milltir i’r de-orllewin o Pittsburgh.

Mae Maer Canonsburg, Dave Rhome, wedi cadrnhau fod dau swyddog o’r heddlu wedi cael eu saethu, ond nad ydi hi’n glir eto beth ydi eu cyflwr nhw.

Mae un plismon wedi’i gludo i ysbyty yn Canonsburg, ac mae’r llall wedi’i gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Pittsburgh.

Dyw hi ddim yn glir eto beth sbardunodd y saethu.