Pobl America'n bwrw pleidlais yn yr etholiad arlywyddol, Llun: PA/Michael Conroy)
Mae pobl America wedi dechrau pleidleisio i ddewis yr arlywydd nesaf  wrth i’r blychau pleidleisio agor.

Cafodd yr ymgyrch etholiadol ei disgrifio fel un o’r rhai mwyaf chwerw a “gwallgof” yn hanes yr Unol Daleithiau, gyda’r cecru rhwng Hillary Clinton a Donald Trump yn gyson a’r ddau yn cael eu cysylltu hefo ymchwiliadau i dor-cyfraith.

Y darogan ar hyn o bryd yw bod y Democrat Hillary Clinton bedwar pwynt ar y blaen, ond bod y Gweriniaethwr Donald Trump yn dynn ar ei sodlau.

Mae mwy na 46 miliwn o drigolion y wlad eisoes wedi pleidleisio trwy bleidlais bost, ac mae disgwyl i nifer hanesyddol o bobol o dramor sy’n byw yn y wlad fwrw pleidlais – gan ddatgan cefnogaeth i Clinton.

‘Gwallgo’

Wrth son am yr ymgyrch etholiadol, dywedodd David Denby sy’n byw yn Salem, Massachusetts – ardal sy’n debygol o gefnogi Hillary Clinton, yn ôl y New York Times:

“Mae’r holl beth wedi bod yn wallgo’. Dim dadlau ynglŷn â pholisi; dim ond lot o sarhau.

“Cafodd fy nhad ei fomio gan y ffasgiaid yng Nghaerdydd pan oedd e’n fachgen bach – nawr mae fy mhlant i yn gweld ffasgiaid newydd.

“O leiaf ym Massachusetts, bydd marijuana yn gyfreithlon yfory!” meddai.

Bydd y blychau pleidleisio yn cau am 8yh nos Fawrth (amser lleol).