Mae ymosodiad gan hunanfomiwr mewn car wedi lladd o leia’ naw o bobol i’r gogledd o brifddinas Irac.

Fe yrrodd y bomiwr ei gar llawn ffrwydron i mewn i adeilad milwrol yn ystod oriau brig ddydd Sul nepell o fynediad deheuol dinas Tikrit ger Baghdad.

Fe laddwyd pum myfyrwraig, un ddynes a thri phlismon. Mae 25 o bobol eraill wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoleb am yr ymosodiad hyd yma.