Mae chwech o gleifion wedi cael eu lladd, ac 11 arall eu hanafu, mewn tân yn un o ysbytai’r llywodraeth yn Malaysia.

Yn ôl swyddogion, fe gafodd cannoedd o bobol eu symud o’r ysbyty yn ne talaith Johor, wedi i’r fflamau losgi eu ffordd trwy uned gofal dwys ar ail lawr yr adeilad.

Mae gweinidog iechyd y wlad wedi cadarnhau bod chwe chlaf wedi’u lladd, a bod claf arall wedi diodde’ llosgiadau, a deg o aelodau staff yr ysbyty wedi brifo hefyd.

Fe ddaeth cadarnhad pellach gan heddlu Johor fod cyrff pedair gwraig a dau ddyn wedi’u canfod yn yr ysbyty, a bod ymchwiliad yn awgrymu mai nam ar wifrau trydan oedd i gyfri’ am y tân.