Hillary Clinton a Donald Trump yn un o'r dadleuon teledu yn gynharach yn y mis (llun: PA)
Mae ymgyrch Hillary Clinton am arlywyddiaeth America yn paratoi at gyfer y posibilrwydd y bydd Donald Trump yn gwrthod cydnabod canlyniad yr etholiad.

Gyda rhagolygon cynyddol y bydd Clinton yn ennill, gallai her gan Trump gymhlethu wythnosau cynnar ei harlywyddiaeth.

Er bod cefnogwyr Clinton yn pwysleisio nad ydyn nhw’n cymryd  yr etholiad yn ganiatal, maen nhw’n troi eu sylw fwyfwy at yr hyn fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad.

Eu gobaith mwyaf yw y bydd yn ennill o ddigon o fwyafrif ar 8 Tachwedd i wrthsefyll unrhyw her gan Trump ar ôl y frwydr etholiadol chwerw rhwng y ddau.

“Mae Donald am gwyno os bydd yn colli,” meddai Tim Kaine, Is-arlywydd America os caiff Clinton ei hethol. “Ond os yw’r mandad yn glir, dw i ddim yn meddwl y bydd pobl yn ei ddilyn.”

Un o’r prif resymau y mae ymgyrch Clinton mor hyderus yw bod arolygon yn dangos cefnogaeth sylweddol iddi mewn taleithiau sy’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gweriniaethwyr, fel Gogledd Carolina, Missouri ac Arizona.