Baner y wladwriaeth Islamaidd
Mae lluoedd llywodraeth Irac wedi cychwyn cyrch newydd i’r de-ddwyrain o ddinas Mosul i geisio disodli’r Wladwriaeth Islamaidd o’r ddinas.

Mae’n rhan o’r cyrch mwyaf gan luoedd Irac ers y rhyfel yn 2003, ac mae disgwyl iddo barhau am wythnosau, os nad misoedd.

Fe wnaeth Mosul, ail ddinas Irac, syrthio i’r Wladwriaeth Islamaidd yn 2014, a’r wythnos yma, mae hunan-fomwyr wedi bod yn ymosod ar ddinasoedd eraill gerllaw er mwyn ceisio llesteirio ymdrechion lluoedd Irac.

Yn gynharach yn yr wythnos, llwyddodd lluoedd Irac i ail-gipio tref Bartella, tua naw milltir i’r dwyrain o Mosul, ond maen nhw’n dal i wynebu pocedi o wrthryfelwyr yn yr ardal.