Mae arbenigwr difa bomiau Americanaidd wedi marw yn y frwydr i gipio dinas Mosul yn Irac.

Daeth cadarnhad gan awdurdodau yr Unol Daleithiau bod y dyn wedi’i ladd pan ffrwydrodd bom ar ochr y ffordd i’r gogledd o’r ddinas.

Mae mwy na 100 o luoedd arbennig yr Unol Daleithiau yn brwydro gyda byddin Irac, ac mae cannoedd yn rhagor yn chwarae rôl gefnogol yn y wlad.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), sydd wedi meddiannu Mosul am fwy na dwy flynedd, wedi paratoi amddiffynfeydd helaeth o amgylch y ddinas.

Yn y cyfamser, wrth iddyn nhw agosáu at dref Bartella sydd tua naw milltir o gyrion Mosul, mae lluoedd arbennig Irac yn wynebu un arall o driciau IS – tryciau arfog llawn ffrwydron sy’n cael eu gyrru gan hunanladdwyr.

Mae Mosul yn gartref i fwy na miliwn o bobl ac mae grwpiau hawliau yn ofni argyfwng dyngarol posibl yn dilyn y brwydro

Dywedodd prif weinidog Irac Haider Al-Abadi Gall y gall ei luoedd gipio Mosul  yn gynt na’r disgwyl. Roedd disgwyl i’r ymgyrch, a ddechreuodd ar ddydd Llun, bara wythnosau, os nad misoedd, ond mae’n edrych yn debygol y byddan nhw’n gallu cipio’r ddinas o fewn dyddiau.