Sanaa prifddinas yr Yemen
Mae mwy na 140 o bobl wedi’u lladd a thua 525 wedi’u hanafu mewn cyrch awyr ar neuadd a oedd yn llawn ar gyfer angladd, ym mhrifddinas Yemen.

Mae Nasser al-Argaly, is-ysgrifennydd y  Weinidogaeth Iechyd wedi rhoi’r bai ar y glymblaid sy’n cael ei harwain gan Sawdi Arabia, am yr ymosodiad yn Sanaa.

Yn y cyfamser mae Jamie McGoldrick, cydlynydd dyngarol y Cenhedloedd Unedig yn Yemen, wedi dweud bod y gymuned ddyngarol “wedi’u synnu a’u cythruddo” gan yr ymosodiadau ac mae wedi galw am ymchwiliad brys.

“Mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol roi pwysau ar yr holl grwpiau yn y gwrthdaro i sicrhau bod pobl gyffredin yn cael eu diogelu,” meddai.

Mae’r digwyddiad wedi arwain at adolygiad brys gan yr Unol Daleithiau o’r cymorth mae’n ei roi i’r glymblaid sy’n cael ei harwain gan Sawdi Arabia, meddai’r Tŷ Gwyn. Roedd America eisoes yn rhoi llai o gymorth i’r glymblaid. Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn eu bod yn “bryderus iawn” am yr adroddiadau diweddaraf o Yemen.

Yn ôl yr awdurdodau yn Yemen, roedd swyddogion milwrol a diogelwch ymhlith y meirw a’r rhai gafodd eu hanafu, o rengoedd y gwrthryfelwyr Shiaidd Houthi, sy’n gwrthwynebu llywodraeth yr Arlywydd Abed Rabbo Mansour Hadi. Fe ddechreuodd y rhyfel cartref yn 2014.

Dywedodd gweinidog y Swyddfa Dramor Tobias Ellwood y byddai’n codi’r mater gyda llysgennad Sawdi Arabia.