Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi cael eu hanafu mewn ffrwydriad ger gorsaf heddlu yn Istanbul.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am osod a ffrwydro’r ddyfais. Mae’r heddlu’n chwilio am unigolyn a gafodd ei weld yn gadael y fan yn cario helmed fotobeic.

Mae Twrci wedi cael ei siglo yn ddiweddar gan don o ymosodiadau yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ gan wrthryfelwyr Cwrdaidd a milwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae Plaid y Gweithwyr Cwrdaidd (y PKK) wedi bod yn targedu gorsafoedd yr heddlu ers dros 30 mlynedd.

Ers i gadoediad bregus rhwng Twrci a’r PKK fynd i’r gwellt yr ha’ diwetha’, mae mwy na 600 o staff diogelwch Twrci, a miloedd o wrthryfelwyr PKK, wedi cael eu lladd.