Mae teiffwn pwerus wedi achosi difrod mawr yn Ne Corea, ac wedi lladd chwech o bobol. Mae pedwar o bobol eraill yn dal ar goll.

Fe achosodd Teiffwn Chaba wyntoedd cryfion a glaw trwm yn ne-ddwyrain y wlad, yn enwedig ar ynys Jeju am ddeuddydd yr wythnos hon.

Mae 200 o bobol wedi’u gadael yn ddigartre’, ac mae 229,000 o gartrefi yn dal i fod heb drydan na phwer.

Fe darodd teiffwn arall, Lionrock, un o ardaloedd pellennig Gogledd Corea ddiwedd Awst eleni, gan achosi llifogydd y mae’n debyg sydd wedi lladd cymaint â 130 o bobol.

Mae elusen y Groes Goch yn amcangyfrif bod 70,000 o bobol yn ddigartre’ yn ardal Gogledd Hamgyong, Gogledd Corea, yn dilyn y tywydd mawr.