Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi cyfarfod â pherthnasau’r rheiny gafodd eu lladd a’u hanafu yn yr ymosodiad lori yn Nice yn Ffrainc, gan gynnig iddyn nhw “gydymdeimlad dwys” a’u hannog i ymateb i beidio ag ymateb i gasineb â rhagor o gasineb.

Roedd y cynulliad yn y Fatican yn cynnwys Cristnogion, Mwslimiaid ac Iddewon.

“Pwy wyr na allai perthynas gre’ rhwng gwahanol grefyddau fod o gymorth i fendio’r clwyfau a achoswyd gan ddigwyddiadau  dramatig fel hyn,” meddai Ffransis.

Fe ddaeth cyn-Faer dinas Nice â basged o 86 o flodau i’r cyfarfod – gyda phob un o’r blodau’n cynrychioli unigolyn a laddwyd yn yr ymosodiad ar Orffennaf 14 (Diwrnod Bastille).