Mae heddlu yn America yn chwilio am ddyn arfog wedi i bump o bobol gael eu saethu’n farw mewn canolfan siopa brysur tua 60 cilomedr i’r gogledd o ddinas Seattle.

Maen nhw’n chwilio am ddyn o dras Sbaenaidd yn gwisgo du ac yn cario reiffl. Y tro diwetha’ iddo gael ei weld, roedd o’n cerdded i gyfeiriad traffordd Interstate 5 yn syth wedi’r digwyddiad yn y Cascade Mall yn Burlington.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau i bedair dynes gael eu lladd; bod dyn a fu mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty hefyd wedi marw; a bod dynes arall wedi diodde’ anafiadau sydd ddim yn bygwth ei bywyd.

Fe gafodd y ganolfan siopa ei gwagio tua 8.30yh (amser lleol) nos Wener.