Mae disgyblion wedi cael eu hanfon adre’ o bob ysgol yn rhanbarth Prince Edward Island yn Canad, oherwydd “peryg potensial”, meddai’r heddlu.
Mae’r plant wedi’u cludo i “lefydd diogel” meddai heddlu’r wlad.
Yn y cyfamser, mae rhieni a gwarchodwyr y plant wedi cael gwybod y byddan nhw’n cael cyfarwyddiadau pellach cyn codi eu plant ar ddiwedd y diwrnod ysgol..
Mae tair ysgol yn nhalaith Nova Scotia, sy’ drws nesa’ i Prince Edward Island, wedi cael eu symud hefyd, yn wynebu “bygythiadau”.