Mae protestiadau wedi dechrau eto yn America, ar ôl i ddyn du arall gael ei saethu’n farw gan yr heddlu yno.

Mae’r heddlu wedi defnyddio nwy dagrau ar y protestwyr yn Charlotte, Gogledd Carolina, ar ôl i Keith Lamont Scott, 43, gael ei saethu gan blismon du mewn adeilad yn y ddinas.

Yn ôl yr heddlu, roedd ganddo arfau ac roedd yn fygythiad.

Fe wnaeth Heddlu Charlotte-Mecklenbug drydar bod y protestwyr yn creu difrod i gerbydau’r heddlu a bod tua 12 o swyddogion wedi cael eu hanafu. Mae’n debyg cafodd un ei fwrw yn ei wyneb â charreg.

Daw’r aflonyddwch yn Charlotte oriau yn dilyn protest arall yn Tulsa, Oklahoma, ar ôl i’r heddlu saethu dyn du oedd ddim yn cario arfau.

Yn ôl llefarydd ar ei rhan, roedd heddlu Charlotte wedi gweld Keith Scott yn dod allan o gar â gwn ac yna’n mynd yn ôl i mewn.

Pan wnaeth swyddogion fynd ato, fe wnaeth y dyn adael y car gyda’r gwn, ac ar y pwynt hwnnw fe wnaeth un swyddog saethu tuag ato.

Saethu dyn heb arf

Yn Tulsa, fe wnaeth cannoedd o bobol ddod at ei gilydd y tu allan i bencadlys yr heddlu dros farwolaeth Terrence Crutcher, 40, dydd Gwener.

Yn ôl cyfreithiwr Betty Shelby, y swyddog a saethodd, doedd e ddim yn dilyn gorchmynion y swyddogion a’i fod yn cadw mynd i mewn i’w boced fel petai yn cario arf.

Fe ddywedodd cyfreithiwr sy’n cynrychioli Terrence Crutcher, nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ac nad oedd wedi rhoi unrhyw reswm i’r heddlu ei saethu.

Mae ymchwiliadau i’r achos hwnnw’n parhau.