Heddlu Efrog Newydd Llun: PA
Mae pump o bobol yn cael eu holi ar amheuaeth o achosi’r ffrwydrad ym Manhattan yn Efrog Newydd nos Sadwrn, lle cafodd 29 o bobol eu hanafu.

Mae’r FBI hefyd yn ymchwilio i ddyfais arall a ganfuwyd mewn bin sbwriel ger gorsaf reilffordd New Jersey.

Dywedodd llefarydd ar ran yr FBI eu bod wedi holi pump o bobol oedd yn teithio mewn car yn ardal Brooklyn ar y dydd Sul.

Does neb wedi’u cyhuddo hyd yn hyn ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Dod o hyd i ail fom

Digwyddodd y ffrwydrad ym Manhattan nos Sadwrn ac yna, nos Sul, cafwyd hyd i becyn a oedd yn debyg i fom bibell yn New Jersey.

Mae gwasanaethau ym maes awyr Newark Liberty a gorsaf drenau Elizabeth wedi’u gohirio heddiw, gyda rhai o wasanaethau trên o orsaf New Jersey gan Amtrak yn cael eu cynnal yng ngorsaf Penn, Efrog Newydd.

Dros y penwythnos hefyd, fe wnaeth dyn drywanu ac anafu wyth o bobol mewn canolfan siopa yn nhalaith Minnesota, cyn cael ei saethu gan swyddog o’r heddlu, gydag asiantaeth newyddion y grwp brawychol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni fod gan y person hwnnw gysylltiadau ag IS.