Mae o leiaf 13 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i gwch oedd yn cludo mwy na 100 o bobol suddo yng Ngwlad Thai.

Mae rhai pobol yn dal ar goll, yn ôl adroddiadau, ac fe suddodd y cwch ar ôl gwrthdrawiad ar afon Chao Phraya i’r gogledd o Bangkok brynhawn dydd Sul.

Yn ôl adroddiadau, cafodd mwy na 30 o bobol eu hanafu.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i oroeswyr wedi dechrau, ond mae tywydd garw yn amharu ar y gwaith.