Mae’r Unol Daleithiau a Rwsia wedi dod i gytundeb yng Ngenefa ar gadoediad i Syria a allai ddod i rym yr wythnos nesaf.

Fe allai’r cadoediad hefyd gael ei ddilyn gan bartneriaeth filwrol newydd rhwng y ddwy lywodraeth er mwyn mynd i’r afael â bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd ac al Qaida.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry y gallai’r cadoediad leihau trais yn Syria ac arwain at ateb gwleidyddol i’r anghydfod sydd wedi para mwy na phum mlynedd.

Dywedodd y gallai’r cadoediad, sy’n dod i rym ddydd Llun, fod yn “drobwynt” pe bai llywodraeth Syria a’r gwrthryfelwyr yn ei dderbyn.

Mae’n cyd-daro â dechrau cyfnod Eid al-Adha i Foslemiaid.

Dywedodd Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov y gallai’r cadoediad fod o fudd dyngarol i drigolion Syria, a bod llywodraeth Bashar Assad yn barod i gydymffurfio â’r telerau.

Mae’r cytundeb newydd yn mynd ymhellach na chytundebau’r gorffennol, wrth sicrhau y bydd cynghrair gwrth-derfysgaeth yn cael ei sefydlu rhwng y ddwy wlad.

Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys rhannu cudd-wybodaeth.