Aleppo (Llun: PA)
Mae adroddiadau yn Syria heddiw fod un o arweinwyr mudiad tebyg i al Qaida, a oedd yn gweithredu yn ninas Aleppo, wedi cael ei ladd gan gyrch awyr.

Mae cyfri’ Twitter Jabhat Fatah al-Sham yn dweud ei fod wedi’i ladd yn yr ardal wledig o gwmpas Aleppo. Does yna ddim mwy o fanylion am ei farwolaeth, na phryd yn union y digwyddodd hyn.

Mae’r Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid, Rwsia a llywodraeth Syria wedi bod yn anfon awyrennau yno i ymosod ar grwpiau o wrthryfelwyr.