Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea yn dweud ei bod wedi cyflawni ei phumed prawf niwclear yn llwyddiannus.

Yn ôl teledu’r wlad, mae’r prawf yn rhan o’i hymateb i sancsiynau rhyngwladol a gafodd eu cyflwyno yn ei herbyn yn dilyn ei phrawf niwclear a’i lansiad roced ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Mae Pyongyang wedi dweud y bydd yn parhau i geisio cryfhau nifer ac ansawdd ei harfau niwclear.

Mae arlywydd De Corea, Park Geun-hye, wedi dweud bod y prawf yn dangos “byrbwylltra llywodraeth Kim Jong Un.”

Yn ôl adroddiadau o Dde Corea, cafodd ddaeargryn maint 5.0 ei mesur ger safle brawf y Gogledd, Punggye-ri.

Dyma’r daeargryn mwyaf i’w gael ei gysylltu â phrofion niwclear Gogledd Corea, yn ôl asiantaeth dywydd De Corea.

Yn dilyn y prawf cyntaf yn 2006, cafodd daeargryn main 3.9 ei fesur, ac roedd y pedwerydd un yn mesur 4.8.

Mae profion Gogledd Corea yn rhan o’i bwriad i greu taflegryn niwclear a allai, rhyw ddydd, gyrraedd tir mawr America.

Sancsiynau pellach?

Bydd y prawf hwn yn arwain yn rhoi pwysau ar y Cenhedloedd Unedig i gyflwyno rhagor o sancsiynau yn erbyn y wlad.

Mae Gogledd Corea eisoes yn un o’r gwledydd â mwyaf o sancsiynau yn y byd, ac mae llawer yn cwestiynu os yw’r gosb yn gweithio.