Llun: PA
Mae o leiaf 12 o bobl wedi’u lladd mewn ymosodiad bom car  mewn ardal brysur yng nghanol Baghdad, yn ôl swyddogion yn Irac.

Dywedodd swyddog yr heddlu bod y cerbyd wedi’i adael mewn maes parcio yn rhanbarth Shiaidd Karradah ac wedi ffrwydro yn hwyr nos Lun. Cafodd 28 o bobl eu hanafu ac o leiaf 15 o geir eu difrodi, meddai.

Mewn datganiad ar-lein, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Ym mis Gorffennaf, roedd ymosodiad bom wedi lladd bron i 300 o bobl yn Karradah. Roedd IS wedi honni mai nhw oedd yn gyfrifol.