Cafodd rhannau o'r gwersyll i ffoaduriaid yn Calais ei ddymchwel yn gynharach eleni Llun: @HelpRefugeesUK/PA
Yn Ffrainc, fe fydd perchnogion siopau, yr heddlu, undebau a ffermwyr yn ymuno a gyrwyr loriau heddiw i alw am ddymchwel gwersyll i ffoaduriaid yn Calais.

Mae teithwyr o Brydain sy’n croesi’r Sianel yn wynebu trafferthion wrth i yrwyr loriau brotestio yn erbyn y gwersyll sy’n cael ei adnabod fel Y Jyngl yn Calais.

Mae pwysau cynyddol wedi bod ar yr awdurdodau yn Ffrainc i fynd i’r afael a’r broblem sydd wedi gweld cynnydd ym maint y gwersyll dros y misoedd diwethaf. Cafodd trafodaeth eu cynnal rhwng trefnwyr y brotest a Gweinidog Mewnol llywodraeth Ffrainc Bernard Cazeneuve ddydd Gwener.

Mae disgwyl i loriau a thractorau ddod ynghyd yn Dunkirk, i’r gogledd o Calais ac i’r de o  Bolougne am 7.30yb (amser lleol), yn ôl y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd.  Fe fydd y ddau grŵp wedyn yn teithio ar yr A16 tuag at Calais gan gwrdd wrth allanfa Eurotunnel.

Er gwaetha’r ymdrechion i ddymchwel rhan o’r gwersyll yn gynharach eleni, mae hyd at 9,000 o ffoaduriaid o wledydd yn cynnwys Swdan, Syria ac Eritrea yn byw yno.