Baner y Wladwriaeth Islamaidd (IS) Llun: PA
Dywed y Wladwriaeth Islamaidd (IS) bod eu llefarydd a strategydd blaenllaw’r grŵp wedi cael ei ladd yn ystod cyrch awyr yng ngogledd Syria.

Yn ôl asiantaeth newyddion Aamaq, sy’n cael ei gynnal gan IS, cafodd Abu Muhammed al-Adnani ei ladd yn y cyrch gan yr Unol Daleithiau, wrth iddo oruchwylio ymgyrchoedd milwrol yn Aleppo.

Os yw ei farwolaeth yn cael ei gadarnhau, dyma fyddai’r ergyd ddiweddaraf i’r grŵp, sydd wedi colli tir yn Syria ac Irac.

Roedd Al-Adnani, a oedd yn dod o Syria, wedi annog dilynwyr i gynnal ymosodiadau ar wledydd y Gorllewin, gan arwain at yr ymosodiadau ym Mharis ym mis Tachwedd y llynedd, gan ladd 130 o bobl ac anafu cannoedd o bobl eraill.