Lluoedd Twrcaidd yn dychwelyd o Syria yn Karamis, Twrci, ddoe (llun: Ismail Coskun, IHA trwy AP)
Mae ymosodiadau o’r awyr gan Twrci wedi lladd o leiaf 35 o bobl yng ngogledd Syria dros y ddeuddydd ddiwethaf.

Roedd Twrci wedi anfon tanciau dros y ffin i helpu gwrthryfelwyr yn Syria i yrru’r Wladwriaeth Islamaidd allan o dref Jarablus ar y ffin. Eu nod hefyd yw taro lluoedd Cwrdaidd yn Syria.

Wrth i Twrci chwarae rhan fel hyn yn rhyfel cartref Syria, mae’n golygu bod un o aelodau Nato yn ymladd erbyn grŵp sy’n cael ei gefnogi gan America ac sydd hefyd yn rym milwrol effeithiol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn Syria.

Mae llywodraeth Twrci yn ddrwgdybus iawn o’r milwyr Cwrdaidd yn Syria, gan eu hamau o fod yn estyniad o’r gwrthryfel Cwrdaidd sy’n digwydd yn ne-ddwyrain Twrci.

Er yn rhan o’r glymblaid ryngwladol o dan arweiniad America sy’n ymladd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd, yr ymosodiadau o’r awyr ddoe oedd y tro cyntaf i Twrci dargedu lluoedd Cwrdaidd yn Syria.

Mae adroddiadau fod y gwrthryfelwyr sy’n cael eu cefnogi gan Twrci wedi cipio o leiaf bedwar pentref ac un dref oddi ar luoedd Cwrdaidd.