Hillary Clinton yn ymosod ar Farage (Llun o wefan ei hymgyrch)
Mae’r Democrat Hillary Clinton wedi beirniadu Nigel Farage ar ôl iddo awgrymu ei fod yn cefnogi’r Gweriniaethwr Donald Trump yn y ras am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Er nad yw cyn-arweinydd UKIP wedi datgan yn blwmp ac yn blaen ei fod yn cefnogi Trump, dywedodd na fyddai’n pleidleisio dros Clinton hyd yn oed pe bai’n cael ei dalu i wneud hynny.

Roedd Farage yn annerch rali Trump ym Mississippi, gan gymharu yr ymgyrch adael yn refferendwm Ewrop i ymgais Trump i ddod yn arlywydd.

Clinton yn ymosod

Mewn rali ddydd Iau, dywedodd Hillary Clinton fod Nigel Farage yn arwydd o’r math o wleidyddiaeth yr oedd Donald Trump eisiau.

“Mae Farage wedi galw am waharddiad ar blant mewnfudwyr cyfreithlon rhag [mynd i] ysgolion cyhoeddus a [defnyddio] gwasanaethau iechyd, wedi dweud bod menywod, ac rwy’n dyfynnu, yn ‘werth llai’ na dynion ac mae’n cefnogi diddymu cyfreithiau sy’n atal cyflogwyr rhag neilltuo ar sail hil.

“Dyna pwy mae Donald Trump am ei gael wrth ei ochr wrth iddo annerch cynulleidfa o bleidleiswyr Americanaidd.”

Ymateb Farage

“Mae ei hymosodiadau arna’ i’n gwbl ddi-sail. Mae hi’n swnio braidd fel Bob Geldof ac yn methu derbyn Brexit,” meddai Nigel Farage gan ddweud bod  “ofn” arni.

“Efallai y dylai Mrs Clinton dreulio mwy o amser yn siarad â phobol gyffredin sy’n gweithio yn ei gwlad yn hytrach na cheisio ymosod arnaf i gan ddefnyddio ryw hanner dyfyniadau amheus.”