Map yn dangos canol y daeargryn (Sting a NordNordWest CCA3.0)
Mae stad o argyfwng wedi’i chyhoeddi yn yr Eidal yn dilyn daeargryn sydd wedi lladd o leia’ 267 o bobol.

Mae lle i gredu bod tri o bobol o wledydd Prydain ymhlith y meirw yn Amatrice yn dilyn y digwyddiad fore Mercher.

Yn ôl adroddiadau, roedd gan ddau ohonyn nhw fflat yn Sommati, ryw 1.3 milltir y tu allan i Amatrice ac roedd y trydydd – bachgen yn ei arddegau – yno are i wyliau.

Dyw’r nifer ddim wedi cael ei gadarnhau gan Swyddfa Dramor Prydain, ond mae aelodau o staff yr adran wedi’u hanfon i’r Eidal i gynnig cymorth i’r awdurdodau yno ac i bobol sydd wedi cael eu heffeithio.

Cryniadau pellach

Yn dilyn y daeargryn gwreiddiol, mae ôl-gryniadau sy’n mesur hyd at 4.7 ar y raddfa Richter wedi cael eu teimlo yn yr ardal wrth i’r ymdrechion i ddod o hyd i oroeswyr barhau.

Fe gafodd o leia’ 365 o bobol eu hanafu’n ddrwg gan y daeargryn, a chafodd tair tref eu dinistrio.

Penawdau

  • Mae prif weinidog yr Eidal, Matteo Renzi wedi addo neilltuo arian sylweddol – 50 miliwn Ewro (£42.7 miliwn) er mwyn ail-adeiladu’r ardal.
  •  Fydd dim rhaid i bobol leol dalu trethi am y tro, ac fe gafodd cynllun cartrefi newydd ei gyhoeddi, ynghanol honiadau o waith adeiladu gwael dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae degau o bobol yn ddi-gartref, a’u cartrefi yn rhy beryglus i ddychwelyd iddyn nhw ar hyn o bryd.
  • Mae eglwysi a ffermwyr wedi bod yn cynnig cymorth a nwyddau i bobol leol sydd wedi cael eu heffeithio.
  • Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o bobol sy’n dal i fod ar goll.