Llun fideo o'r achub ar Corriere TV
Mae papurau lleol yn dweud bod nifer y meirw yn naeargryn yr Eidal wedi codi i 250 wrth i ragor o gryniadau daro canol y wlad.

Roedd y diweddara’ wedi cyrraedd 4.5 ar y raddfa Richter ac mae’r awdurdodau’n argymell y dylai pobol adael yr ardal rhag ofn rhagor o ddifrod.

Yn ôl y papur Corriere della Sera mae 250 wedi marw a llawer o’r rheiny’n blant – mae 365 hefyd yn yr ysbyty.

Fe drawodd y daeargryn ddoe yn agos at dref Norcia yn agos at y ffin rhwng Umbria a Le Marche – tref wledig fechan yng nghanol mynyddoedd yr Appenine.

Roedd 193 o’r meirw mewn un dref fechan arall, Amatrice.